1 ARGLWYDD, clyw fy ngweddi,a doed fy nghri atat.
2 Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyfyn nydd fy nghyfyngder;tro dy glust ataf,brysia i'm hateb yn y dydd y galwaf.
3 Oherwydd y mae fy nyddiau'n darfod fel mwg,a'm hesgyrn yn llosgi fel ffwrn.
4 Yr wyf wedi fy nharo, ac yn gwywo fel glaswellt;yr wyf yn darfod o beidio â bwyta.
5 Oherwydd sŵn fy ochneidioy mae fy esgyrn yn glynu wrth fy nghnawd.
6 Yr wyf fel pelican mewn anialwch,ac fel tylluan mewn adfeilion.
7 Yr wyf yn methu cysgu,ac fel aderyn unig ar do.
8 Y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio trwy'r amser,a'm gwatwarwyr yn defnyddio fy enw fel melltith.
9 Yr wyf yn bwyta lludw fel bara,ac yn cymysgu fy niod â dagrau,
10 o achos dy lid a'th ddigofaint,oherwydd cydiaist ynof a'm bwrw o'r neilltu.
11 Y mae fy mywyd fel cysgod hwyrddydd;yr wyf yn gwywo fel glaswelltyn.
12 Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,a phery dy enw dros y cenedlaethau.
13 Byddi'n codi ac yn trugarhau wrth Seion;y mae'n adeg i dosturio wrthi,oherwydd fe ddaeth yr amser.
14 Y mae dy weision yn hoffi ei meini,ac yn tosturio wrth ei llwch.
15 Bydd y cenhedloedd yn ofni enw'r ARGLWYDD,a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant.
16 Oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn adeiladu Seion,bydd yn ymddangos yn ei ogoniant;
17 bydd yn gwrando ar weddi'r gorthrymedig,ac ni fydd yn diystyru eu herfyniad.
18 Bydded hyn yn ysgrifenedig i'r genhedlaeth i ddod,fel bod pobl sydd eto heb eu geni yn moli'r ARGLWYDD:
19 ddarfod iddo edrych i lawr o'i uchelder sanctaidd,i'r ARGLWYDD edrych o'r nefoedd ar y ddaear,
20 i wrando ocheneidiau carcharoriona rhyddhau'r rhai oedd i farw,
21 fel bod cyhoeddi enw'r ARGLWYDD yn Seion,a'i foliant yn Jerwsalem,
22 pan fo pobloedd a theyrnasoeddyn ymgynnull ynghyd i addoli'r ARGLWYDD.
23 Y mae wedi sigo fy nerth ar y daith,ac wedi byrhau fy nyddiau.
24 Dywedaf, “O fy Nuw, paid â'm cymryd yng nghanol fy nyddiau,oherwydd y mae dy flynyddoedd di dros yr holl genedlaethau.
25 “Gynt fe osodaist sylfeini'r ddaear,a gwaith dy ddwylo yw'r nefoedd.
26 Y maent hwy yn darfod, ond yr wyt ti yn aros;y maent i gyd yn treulio fel dilledyn.Yr wyt yn eu newid fel gwisg,ac y maent yn diflannu;
27 ond yr wyt ti yr un,a'th flynyddoedd heb ddiwedd.
28 Bydd plant dy weision yn byw'n ddiogel,a'u disgynyddion yn sicr o'th flaen.”