1 Pan adferodd yr ARGLWYDD lwyddiant Seion,yr oeddem fel rhai wedi cael iachâd;
2 yr oedd ein genau yn llawn chwerthina'n tafodau yn bloeddio canu.Yna fe ddywedid ymysg y cenhedloedd,“Gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr iddynt hwy.”
3 Yn wir, gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr i ni,a bu i ninnau lawenhau.
4 O ARGLWYDD, adfer ein llwyddiantfel ffrydiau yn y Negef;
5 bydded i'r rhai sy'n hau mewn dagraufedi mewn gorfoledd.
6 Bydd yr un sy'n mynd allan dan wylo,ac yn cario ei sach o hadyd,yn dychwelyd drachefn mewn gorfoledd,ac yn cario ei ysgubau.