1 Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.
2 Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision,a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,
3 ac y mae ef yn fy adfywio.Fe'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnderer mwyn ei enw.
4 Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du,nid ofnaf unrhyw niwed,oherwydd yr wyt ti gyda mi,a'th wialen a'th ffonyn fy nghysuro.
5 Yr wyt yn arlwyo bwrdd o'm blaenyng ngŵydd fy ngelynion;yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew;y mae fy nghwpan yn llawn.
6 Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilynbob dydd o'm bywyd,a byddaf yn byw yn nhŷ'r ARGLWYDDweddill fy nyddiau.