Y Salmau 38 BCN

Salm. I Ddafydd, er coffadwriaeth.

1 ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid,ac na chosba fi yn dy ddig.

2 Suddodd dy saethau ynof,y mae dy law yn drwm arnaf.

3 Nid oes rhan o'm cnawd yn gyfan gan dy ddicllonedd,nid oes iechyd yn fy esgyrn oherwydd fy mhechod.

4 Aeth fy nghamweddau dros fy mhen,y maent yn faich rhy drwm imi ei gynnal.

5 Aeth fy mriwiau'n ffiaidd a chrawnioherwydd fy ffolineb.

6 Yr wyf wedi fy mhlygu a'm darostwng yn llwyr,ac yn mynd o amgylch yn galaru drwy'r dydd.

7 Y mae fy llwynau'n llosgi gan dwymyn,ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.

8 Yr wyf wedi fy mharlysu a'm llethu'n llwyr,ac yn gweiddi oherwydd griddfan fy nghalon.

9 O Arglwydd, y mae fy nyhead yn amlwg i ti,ac nid yw fy ochenaid yn guddiedig oddi wrthyt.

10 Y mae fy nghalon yn curo'n gyflym, fy nerth yn pallu,a'r golau yn fy llygaid hefyd wedi mynd.

11 Cilia fy nghyfeillion a'm cymdogion rhag fy mhla,ac y mae fy mherthnasau'n cadw draw.

12 Y mae'r rhai sydd am fy einioes wedi gosod maglau,a'r rhai sydd am fy nrygu yn sôn am ddinistrac yn myfyrio am ddichellion drwy'r dydd.

13 Ond yr wyf fi fel un byddar, heb fod yn clywed,ac fel mudan, heb fod yn agor ei enau.

14 Bûm fel un heb fod yn clywed,a heb ddadl o'i enau.

15 Ond amdanat ti, O ARGLWYDD, y disgwyliais;ti sydd i ateb, O Arglwydd, fy Nuw.

16 Oherwydd dywedais, “Na fydded llawenydd o'm plegidi'r rhai sy'n ymffrostio pan lithra fy nhroed.”

17 Yn wir, yr wyf ar fedr syrthio,ac y mae fy mhoen gyda mi bob amser.

18 Yr wyf yn cyffesu fy nghamwedd,ac yn pryderu am fy mhechod.

19 Cryf yw'r rhai sy'n elynion imi heb achos,a llawer yw'r rhai sy'n fy nghasáu ar gam,

20 yn talu imi ddrwg am ddaac yn fy ngwrthwynebu am fy mod yn dilyn daioni.

21 Paid â'm gadael, O ARGLWYDD;paid â mynd yn bell oddi wrthyf, O fy Nuw.

22 Brysia i'm cynorthwyo,O Arglwydd, fy iachawdwriaeth.