1 Bydded Duw yn drugarog wrthym a'n bendithio,bydded llewyrch ei wyneb arnom,Sela
2 er mwyn i'w ffyrdd fod yn wybyddus ar y ddaear,a'i waredigaeth ymysg yr holl genhedloedd.
3 Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,bydded i'r holl bobloedd dy foli di.
4 Bydded i'r cenhedloedd lawenhau a gorfoleddu,oherwydd yr wyt ti'n barnu pobloedd yn gywir,ac yn arwain cenhedloedd ar y ddaear.Sela
5 Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,bydded i'r holl bobloedd dy foli di.
6 Rhoes y ddaear ei chnwd;Duw, ein Duw ni, a'n bendithiodd.
7 Bendithiodd Duw ni;bydded holl gyrrau'r ddaear yn ei ofni.