Y Salmau 74 BCN

Mascîl. I Asaff.

1 Pam, Dduw, y bwriaist ni ymaith am byth?Pam y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?

2 Cofia dy gynulleidfa a brynaist gynt,y llwyth a waredaist yn etifeddiaeth iti,a Mynydd Seion lle'r oeddit yn trigo.

3 Cyfeiria dy draed at yr adfeilion bythol;dinistriodd y gelyn bopeth yn y cysegr.

4 Rhuodd dy elynion yng nghanol dy gysegr,a gosod eu harwyddion eu hunain yn arwyddion yno.

5 Y maent wedi malurio, fel coedwigwyryn chwifio'u bwyeill mewn llwyn o goed.

6 Rhwygasant yr holl waith cerfiediga'i falu â bwyeill a morthwylion.

7 Rhoesant dy gysegr ar dân,a halogi'n llwyr breswylfod dy enw.

8 Dywedasant ynddynt eu hunain, “Difodwn hwy i gyd”;llosgasant holl gysegrau Duw trwy'r tir.

9 Ni welwn arwyddion i ni, nid oes proffwyd mwyach;ac nid oes yn ein plith un a ŵyr am ba hyd.

10 Am ba hyd, O Dduw, y gwawdia'r gwrthwynebwr?A yw'r gelyn i ddifrïo dy enw am byth?

11 Pam yr wyt yn atal dy law,ac yn cuddio dy ddeheulaw yn dy fynwes?

12 Ond ti, O Dduw, yw fy mrenin erioed,yn gweithio iachawdwriaeth ar y ddaear.

13 Ti, â'th nerth, a rannodd y môr,torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd.

14 Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan,a'i roi'n fwyd i fwystfilod y môr.

15 Ti a agorodd ffynhonnau ac afonydd, a sychu'r dyfroedd di-baid.

16 Eiddot ti yw dydd a nos,ti a sefydlodd oleuni a haul.

17 Ti a osododd holl derfynau daear,ti a drefnodd haf a gaeaf.

18 Cofia, O ARGLWYDD, fel y mae'r gelyn yn gwawdio,a phobl ynfyd yn difrïo dy enw.

19 Paid â rhoi dy golomen i'r bwystfilod,nac anghofio bywyd dy drueiniaid am byth.

20 Rho sylw i'th gyfamod,oherwydd y mae cuddfannau'r ddaear yn llawnac yn gartref i drais.

21 Paid â gadael i'r gorthrymedig droi ymaith yn ddryslyd;bydded i'r tlawd a'r anghenus glodfori dy enw.

22 Cyfod, O Dduw, i ddadlau dy achos;cofia fel y mae'r ynfyd yn dy wawdio'n wastad.

23 Paid ag anghofio crechwen dy elynion,a chrochlefain cynyddol dy wrthwynebwyr.