Y Salmau 86 BCN

Gweddi. I Ddafydd.

1 Tro dy glust ataf, ARGLWYDD, ac ateb fi,oherwydd tlawd ac anghenus ydwyf.

2 Arbed fy mywyd, oherwydd teyrngar wyf fi;gwared dy was sy'n ymddiried ynot.

3 Ti yw fy Nuw; bydd drugarog wrthyf, O Arglwydd,oherwydd arnat ti y gwaeddaf trwy'r dydd.

4 Llawenha enaid dy was,oherwydd atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.

5 Yr wyt ti, Arglwydd, yn dda a maddeugar,ac yn llawn trugaredd i bawb sy'n galw arnat.

6 Clyw, O ARGLWYDD, fy ngweddi,a gwrando ar fy ymbil.

7 Yn nydd fy nghyfyngder galwaf arnat,oherwydd yr wyt ti yn fy ateb.

8 Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd,ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di.

9 Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dodac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd,ac yn anrhydeddu dy enw.

10 Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau;ti yn unig sydd Dduw.

11 O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd,imi rodio yn dy wirionedd;rho imi galon unplyg i ofni dy enw.

12 Clodforaf di â'm holl galon, O Arglwydd fy Nuw,ac anrhydeddaf dy enw hyd byth.

13 Oherwydd mawr yw dy ffyddlondeb tuag ataf,a gwaredaist fy mywyd o Sheol isod.

14 O Dduw, cododd gwŷr trahaus yn f'erbyn,ac y mae criw didostur yn ceisio fy mywyd,ac nid ydynt yn meddwl amdanat ti.

15 Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw trugarog a graslon,araf i ddigio, a llawn cariad a gwirionedd.

16 Tro ataf, a bydd drugarog,rho dy nerth i'th was,a gwared un o hil dy weision.

17 Rho imi arwydd o'th ddaioni,a bydded i'r rhai sy'n fy nghasáu weld a chywilyddio,am i ti, ARGLWYDD, fy nghynorthwyo a'm cysuro.