1 Timotheus 3 BCN

Cymwysterau Arolygydd

1 Dyma air i'w gredu: “Pwy bynnag sydd â'i fryd ar swydd arolygydd, y mae'n chwennych gwaith rhagorol.”

2 Felly, rhaid i arolygydd fod heb nam ar ei gymeriad, yn ŵr i un wraig, yn ddyn sobr, disgybledig, anrhydeddus, lletygar, ac yn athro da.

3 Rhaid iddo beidio â bod yn rhy hoff o win, nac yn rhy barod i daro. I'r gwrthwyneb, dylai fod yn ystyriol a heddychlon a diariangar.

4 Dylai fod yn un a chanddo reolaeth dda ar ei deulu, ac yn cadw ei blant yn ufudd, â phob gwedduster.

5 Os nad yw rhywun yn medru rheoli ei deulu ei hun, sut y mae'n mynd i ofalu am eglwys Dduw?

6 Rhaid iddo beidio â bod yn newydd i'r ffydd, rhag iddo droi'n falch a chwympo dan y condemniad a gafodd y diafol.

7 A dylai fod yn un â gair da iddo gan y byd oddi allan, rhag iddo gwympo i waradwydd a chael ei ddal ym magl y diafol.

Cymwysterau Diacon

8 Yn yr un modd, rhaid i ddiaconiaid ennyn parch; nid yn ddauwynebog, nac yn drachwantus am win, nac yn chwennych elw anonest.

9 A dylent ddal eu gafael ar ddirgelwch y ffydd gyda chydwybod bur.

10 Dylid eu rhoi hwythau ar brawf ar y cychwyn, ac yna, o'u cael yn ddi-fai, caniatáu iddynt wasanaethu.

11 Yn yr un modd dylai eu gwragedd fod yn weddus, yn ddiwenwyn, yn sobr, ac yn ffyddlon ym mhob dim.

12 Rhaid i bob diacon fod yn ŵr i un wraig, a chanddo reolaeth dda ar ei blant a'i deulu ei hun.

13 Oherwydd y mae'r rhai a gyflawnodd waith da fel diaconiaid yn ennill iddynt eu hunain safle da, a hyder mawr ynglŷn â'r ffydd sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu.

Dirgelwch Ein Crefydd

14 Yr wyf yn gobeithio dod atat cyn hir, ond rhag ofn y caf fy rhwystro, yr wyf yn ysgrifennu'r llythyr hwn atat,

15 er mwyn iti gael gwybod sut y mae ymddwyn yn nheulu Duw, sef eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd.

16 A rhaid inni'n unfryd gyffesu mai mawr yw dirgelwch ein crefydd:“Ei amlygu ef mewn cnawd,ei gyfiawnhau yn yr ysbryd,ei weld gan angylion,ei bregethu i'r Cenhedloedd,ei gredu drwy'r byd,ei ddyrchafu mewn gogoniant.”

Penodau

1 2 3 4 5 6