Hebreaid 2 BCN

Iachawdwriaeth mor Fawr

1 Am hynny, rhaid i ni ddal yn fwy gofalus ar y pethau a glywyd, rhag inni fynd gyda'r llif.

2 Oherwydd os oedd y gair a lefarwyd drwy angylion yn sicr, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod ei gyfiawn dâl,

3 pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth mor fawr—iachawdwriaeth a gafodd ei chyhoeddi gyntaf drwy enau'r Arglwydd, a'i chadarnhau wedyn i ni gan y rhai oedd wedi ei glywed,

4 a Duw yn cyd-dystio drwy arwyddion a rhyfeddodau, a gwyrthiau amrywiol, a thrwy gyfraniadau'r Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun?

Tywysog Iachawdwriaeth

5 Oherwydd nid i angylion y darostyngodd ef y byd a ddaw, y byd yr ydym yn sôn amdano.

6 Tystiolaethodd rhywun yn rhywle yn y geiriau hyn:“Beth yw dyn, iti ei gofio,a mab dyn, iti ofalu amdano?

7 Gwnaethost ef am ryw ychydig yn is na'r angylion;coronaist ef â gogoniant ac anrhydedd.

8 Darostyngaist bob peth dan ei draed ef.”Wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd ddim heb ei ddarostwng iddo. Ond yn awr nid ydym hyd yma yn gweld pob peth wedi ei ddarostwng iddo;

9 eithr yr ydym yn gweld Iesu, yr un a wnaed am ryw ychydig yn is na'r angylion, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd oherwydd iddo ddioddef marwolaeth, er mwyn iddo, trwy ras Duw, brofi marwolaeth dros bob dyn.

10 Oherwydd yr oedd yn gweddu i Dduw, yr hwn y mae popeth yn bod er ei fwyn a phopeth yn bod drwyddo, wrth ddwyn pobl lawer i ogoniant, wneud tywysog eu hiachawdwriaeth yn berffaith trwy ddioddefiadau.

11 Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai sy'n cael eu sancteiddio, o'r un cyff y maent oll. Dyna pam nad oes arno gywilydd eu galw hwy'n berthnasau iddo'i hun.

12 Y mae'n dweud:“Fe gyhoeddaf dy enw i'm perthnasau,a chanu mawl iti yng nghanol y gynulleidfa”;

13 ac eto:“Ynddo ef y byddaf fi'n ymddiried”;ac eto fyth:“Wele fi a'r plant a roes Duw imi.”

14 Felly, gan fod y plant yn cydgyfranogi o'r un cig a gwaed, y mae yntau, yr un modd, wedi cyfranogi o'r cig a gwaed hwnnw, er mwyn iddo, trwy farwolaeth, ddiddymu'r hwn sydd â grym dros farwolaeth, sef y diafol,

15 a rhyddhau'r rheini oll oedd, trwy ofn marwolaeth, wedi eu dal mewn caethiwed ar hyd eu hoes.

16 Yn sicr, gafael y mae yn nisgynyddion Abraham ac nid mewn angylion.

17 Am hynny, yr oedd yn rhaid iddo, ym mhob peth, gael ei wneud yn debyg i'w berthnasau, er mwyn iddo fod yn archoffeiriad tosturiol a ffyddlon, gerbron Duw, i fod yn aberth cymod dros bechodau'r bobl.

18 Oherwydd, am iddo ef ei hun ddioddef a chael ei demtio, y mae'n gallu cynorthwyo'r rhai sydd yn cael eu temtio.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13