Hebreaid 5 BCN

1 O blith dynion y bydd pob archoffeiriad yn cael ei ddewis, ac ar ran pobl feidrol y caiff ei benodi i'w cynrychioli mewn materion yn ymwneud â Duw, i offrymu rhoddion ac aberthau dros bechodau.

2 Y mae'n gallu cydymddwyn â'r rhai anwybodus a chyfeiliornus, gan ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid;

3 ac oherwydd y gwendid hwn, rhaid iddo offrymu dros bechodau ar ei ran ei hun, fel ar ran y bobl.

4 Nid oes neb yn cymryd yr anrhydedd iddo'i hun; Duw sydd yn ei alw, fel y galwodd Aaron.

5 Felly hefyd gyda Christ. Nid ei ogoneddu ei hun i fod yn archoffeiriad a wnaeth, ond Duw a ddywedodd wrtho:“Fy Mab wyt ti,myfi a'th genhedlodd di heddiw.”

6 Fel y mae'n dweud mewn lle arall hefyd:“Yr wyt ti'n offeiriad am bythyn ôl urdd Melchisedec.”

7 Yn nyddiau ei gnawd, fe offrymodd Iesu weddïau ac erfyniadau, gyda llef uchel a dagrau, i'r Un oedd yn abl i'w achub rhag marwolaeth, ac fe gafodd ei wrando o achos ei barchedig ofn.

8 Er mai Mab ydoedd, dysgodd ufudd-dod drwy'r hyn a ddioddefodd,

9 ac wedi ei berffeithio, daeth yn ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol i bawb sydd yn ufuddhau iddo,

10 wedi ei enwi gan Dduw yn archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.

Rhybudd rhag Syrthio Ymaith

11 Am Melchisedec y mae gennym lawer i'w ddweud sydd yn anodd ei egluro, oherwydd eich bod chwi wedi mynd yn araf i ddeall.

12 Yn wir, er y dylech erbyn hyn fod yn athrawon, y mae arnoch angen rhywun i ailddysgu ichwi elfennau cyntaf oraclau Duw; angen llaeth sydd arnoch chwi, ac nid bwyd cryf.

13 Nid oes gan y sawl sy'n byw ar laeth ddim profiad o egwyddor cyfiawnder, am mai baban ydyw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13