Hebreaid 8 BCN

Archoffeiriad Cyfamod Newydd a Gwell

1 Prif bwynt yr hyn rwy'n ei ddweud yw mai dyma'r math o archoffeiriad sydd gennym, un sydd wedi eistedd ar ddeheulaw gorsedd y Mawrhydi yn y nefoedd,

2 yn weinidog y cysegr, sef y gwir dabernacl a osododd yr Arglwydd, nid pobl feidrol.

3 Oherwydd y mae pob archoffeiriad yn cael ei benodi i offrymu rhoddion ac aberthau, ac felly, rhaid bod gan hwn hefyd rywbeth i'w offrymu.

4 Yn awr, pe byddai ar y ddaear, ni byddai'n offeiriad o gwbl, gan fod yma eisoes rai sy'n offrymu rhoddion yn ôl y Gyfraith.

5 Y mae'r rhain yn gweini mewn cysegr sy'n llun a chysgod o'r un nefol, yn ôl y gorchymyn a gafodd Moses pan oedd ar fin codi'r tabernacl. “Gofala,” meddai Duw, “y byddi'n gwneud pob peth yn ôl y patrwm a ddangoswyd iti ar y mynydd.”

6 Ond, fel y mae, cafodd Iesu weinidogaeth ragorach, gan ei fod yn gyfryngwr cyfamod cymaint gwell—cyfamod, yn wir, sydd wedi ei sefydlu ar addewidion gwell.

7 Oherwydd pe bai'r cyfamod cyntaf hwnnw yn ddi-fai, ni byddai lle i ail gyfamod.

8 Oblegid y mae Duw'n eu beio pan yw'n dweud:“Y mae'r dyddiau'n dod, medd yr Arglwydd,y gwnaf gyfamod newyddâ thŷ Israel ac â thŷ Jwda;

9 ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid,y dydd y gafaelais yn eu llawi'w harwain allan o wlad yr Aifft,oherwydd nid arosasant hwy yn fy nghyfamod i.A minnau, fe'u diystyrais hwy, medd yr Arglwydd.

10 Dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israelar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd:rhof fy nghyfreithiau yn eu meddwl,ac ysgrifennaf hwy ar eu calon.A byddaf yn Dduw iddynt,a hwythau'n bobl i mi.

11 Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gyd-ddinesydda phob un ei gilydd, gan ddweud, ‘Adnebydd yr Arglwydd.’Oblegid byddant i gyd yn f'adnabod,o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt.

12 Oherwydd byddaf yn drugarog wrth eu camweddau,ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy.”

13 Wrth ddweud “cyfamod newydd”, y mae wedi dyfarnu'r cyntaf yn hen; ac y mae'r hyn sy'n mynd yn hen ac oedrannus ar fin diflannu.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13