32 Gyda'r nos, a'r haul wedi machlud, yr oeddent yn dwyn ato yr holl gleifion a'r rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid.
33 Ac yr oedd yr holl dref wedi ymgynnull wrth y drws.
34 Iachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod.
35 Bore trannoeth yn gynnar iawn, cododd ef ac aeth allan. Aeth ymaith i le unig, ac yno yr oedd yn gweddïo.
36 Aeth Simon a'i gymdeithion i chwilio amdano;
37 ac wedi dod o hyd iddo dywedasant wrtho, “Y mae pawb yn dy geisio di.”
38 Dywedodd yntau wrthynt, “Awn ymlaen i'r trefi nesaf, imi gael pregethu yno hefyd; oherwydd i hynny y deuthum allan.”