Marc 12 BCN

Dameg y Winllan a'r Tenantiaid

1 Dechreuodd lefaru wrthynt ar ddamhegion. “Fe blannodd rhywun winllan, a chododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.

2 Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid i dderbyn ganddynt gyfran o ffrwyth y winllan.

3 Daliasant hwythau ef, a'i guro, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.

4 Anfonodd drachefn was arall atynt; trawsant hwnnw ar ei ben a'i amharchu.

5 Ac anfonodd un arall; lladdasant hwnnw. A llawer eraill yr un fath: curo rhai a lladd y lleill.

6 Yr oedd ganddo un eto, mab annwyl; anfonodd ef atynt yn olaf, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’

7 Ond dywedodd y tenantiaid hynny wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a bydd yr etifeddiaeth yn eiddo i ni.’

8 A chymerasant ef, a'i ladd, a'i fwrw allan o'r winllan.

9 Beth ynteu a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid, ac fe rydd y winllan i eraill.

10 Onid ydych wedi darllen yr Ysgrythur hon:“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,hwn a ddaeth yn faen y gongl;

11 gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn,ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni’?”

12 Ceisiasant ei ddal ef, ond yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg. A gadawsant ef a mynd ymaith.

Talu Trethi i Gesar

13 Anfonwyd ato rai o'r Phariseaid ac o'r Herodianiaid i'w faglu ar air.

14 Daethant, ac meddent wrtho, “Athro, gwyddom dy fod yn ddiffuant, ac na waeth gennyt am neb; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant. A yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw? A ydym i dalu, neu beidio â thalu?”

15 Deallodd yntau eu rhagrith, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf? Dewch â darn arian yma, imi gael golwg arno.”

16 A daethant ag un, ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?” Dywedasant hwythau wrtho, “Cesar.”

17 A dywedodd Iesu wrthynt, “Talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” Ac yr oeddent yn rhyfeddu ato.

Holi ynglŷn â'r Atgyfodiad

18 Daeth ato Sadwceaid, y bobl sy'n dweud nad oes dim atgyfodiad, a dechreusant ei holi.

19 “Athro,” meddent, “ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, ‘Os bydd rhywun farw, a gadael gwraig, ond heb adael plentyn, y mae ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i'w frawd.’

20 Yr oedd saith o frodyr. Cymerodd y cyntaf wraig, a phan fu ef farw ni adawodd blant.

21 A chymerodd yr ail hi, a bu farw heb adael plant; a'r trydydd yr un modd.

22 Ac ni adawodd yr un o'r saith blant. Yn olaf oll bu farw'r wraig hithau.

23 Yn yr atgyfodiad, pan atgyfodant, gwraig p'run ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi'n wraig.”

24 Meddai Iesu wrthynt, “Onid dyma achos eich cyfeiliorni, eich bod heb ddeall na'r Ysgrythurau na gallu Duw?

25 Oherwydd pan atgyfodant oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nefoedd.

26 Ond ynglŷn â bod y meirw yn codi, onid ydych wedi darllen yn llyfr Moses, yn hanes y Berth, sut y dywedodd Duw wrtho, ‘Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’?

27 Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw. Yr ydych ymhell ar gyfeiliorn.”

Y Gorchymyn Mawr

28 Daeth un o'r ysgrifenyddion ato, wedi eu clywed yn dadlau, ac yn gweld ei fod wedi eu hateb yn dda, a gofynnodd iddo, “P'run yw'r gorchymyn cyntaf o'r cwbl?”

29 Atebodd Iesu, “Y cyntaf yw, ‘Gwrando, O Israel, yr Arglwydd ein Duw yw'r unig Arglwydd,

30 a châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl ac â'th holl nerth.’

31 Yr ail yw hwn, ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Nid oes gorchymyn arall mwy na'r rhain.”

32 Dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, “Da y dywedaist, Athro; gwir mai un ydyw ac nad oes Duw arall ond ef.

33 Ac y mae ei garu ef â'r holl galon ac â'r holl ddeall ac â'r holl nerth, a charu dy gymydog fel ti dy hun, yn rhagorach na'r holl boethoffrymau a'r aberthau.”

34 A phan welodd Iesu ei fod wedi ateb yn feddylgar, dywedodd wrtho, “Nid wyt ymhell oddi wrth deyrnas Dduw.” Ac ni feiddiai neb ei holi ddim mwy.

Holi ynglŷn â Mab Dafydd

35 Wrth ddysgu yn y deml dywedodd Iesu, “Sut y mae'r ysgrifenyddion yn gallu dweud bod y Meseia yn Fab Dafydd?

36 Dywedodd Dafydd ei hun, trwy'r Ysbryd Glân:“ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,“Eistedd ar fy neheulawnes imi osod dy elynion dan dy draed.” ’

37 “Y mae Dafydd ei hun yn ei alw'n Arglwydd; sut felly y mae'n fab iddo?” Yr oedd y dyrfa fawr yn gwrando arno'n llawen.

Cyhuddo'r Ysgrifenyddion

38 Ac wrth eu dysgu, meddai, “Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd,

39 a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd.

40 Dyma'r rhai sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd.”

Offrwm y Weddw

41 Eisteddodd i lawr gyferbyn â chist y drysorfa, ac yr oedd yn sylwi ar y modd yr oedd y dyrfa yn rhoi arian i mewn yn y gist. Yr oedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi yn helaeth.

42 A daeth gweddw dlawd a rhoi dau ddarn bychan o bres, gwerth chwarter ceiniog.

43 Galwodd ei ddisgyblion ato a dywedodd wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb arall sy'n rhoi i'r drysorfa.

44 Oherwydd rhoi a wnaethant hwy i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16