Mathew 27 BCN

Dod â Iesu gerbron Pilat

1 Pan ddaeth yn ddydd, cynllwyniodd yr holl brif offeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn Iesu i'w roi i farwolaeth.

2 Rhwymasant ef a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat, y rhaglaw.

Marwolaeth Jwdas

3 Yna pan welodd Jwdas, ei fradychwr, fod Iesu wedi ei gondemnio, bu'n edifar ganddo ac aeth â'r deg darn arian ar hugain yn ôl at y prif offeiriaid a'r henuriaid.

4 Dywedodd, “Pechais trwy fradychu dyn dieuog.” “Beth yw hynny i ni?” meddent hwy. “Rhyngot ti a hynny.”

5 A thaflodd Jwdas yr arian i lawr yn y deml ac ymadael; aeth ymaith, ac fe'i crogodd ei hun.

6 Wedi iddynt dderbyn yr arian, dywedodd y prif offeiriaid, “Nid yw'n gyfreithlon ei roi yn nhrysorfa'r deml, gan mai pris gwaed ydyw.”

7 Ac wedi ymgynghori, prynasant Faes y Crochenydd â'r arian, fel mynwent i ddieithriaid.

8 Dyna pam y gelwir y maes hwnnw hyd heddiw yn Faes y Gwaed.

9 Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd: “Cymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y sawl y rhoddodd rhai o blant Israel bris arno,

10 a'u gwario i brynu maes y crochenydd, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.”

Pilat yn Holi Iesu

11 Safodd Iesu gerbron y rhaglaw; a holodd y rhaglaw ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu, “Ti sy'n dweud hynny.”

12 A phan gyhuddwyd ef gan y prif offeiriaid a'r henuriaid, nid atebodd ddim.

13 Yna meddai Pilat wrtho, “Onid wyt yn clywed faint o dystiolaeth y maent yn ei dwyn yn dy erbyn?”

14 Ond ni roes ef iddo ateb i gymaint ag un cyhuddiad, er syndod mawr i'r rhaglaw.

Dedfrydu Iesu i Farwolaeth

15 Ar yr ŵyl yr oedd y rhaglaw yn arfer rhyddhau i'r dyrfa un carcharor o'u dewis hwy.

16 A'r pryd hwnnw yr oedd carcharor adnabyddus yn y ddalfa, o'r enw Iesu Barabbas.

17 Felly, wedi iddynt ymgynnull, gofynnodd Pilat iddynt, “Pwy a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi, Iesu Barabbas ynteu Iesu a elwir y Meseia?”

18 Oherwydd gwyddai mai o genfigen y traddodasant ef.

19 A thra oedd Pilat yn eistedd ar y brawdle anfonodd ei wraig neges ato, yn dweud, “Paid â chael dim i'w wneud â'r dyn cyfiawn yna, oherwydd cefais lawer o ofid mewn breuddwyd neithiwr o'i achos ef.”

20 Ond perswadiodd y prif offeiriaid a'r henuriaid y tyrfaoedd i ofyn am ryddhau Barabbas a rhoi Iesu i farwolaeth.

21 Atebodd y rhaglaw gan ofyn iddynt, “P'run o'r ddau a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi?”

22 “Barabbas,” meddent hwy. “Beth, ynteu, a wnaf â Iesu a elwir y Meseia?” gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, “Croeshoelier ef.”

23 “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelier ef.”

24 Pan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddŵr, a golchodd ei ddwylo o flaen y dyrfa, a dweud, “Yr wyf fi'n ddieuog o waed y dyn hwn; chwi fydd yn gyfrifol.”

25 Ac atebodd yr holl bobl, “Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant.”

26 Yna rhyddhaodd Pilat iddynt Barabbas, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio.

Y Milwyr yn Gwatwar Iesu

27 Yna cymerodd milwyr y rhaglaw Iesu i'r Praetoriwm a chynnull yr holl fintai o'i gwmpas.

28 Wedi diosg ei ddillad, rhoesant glogyn ysgarlad amdano;

29 plethasant goron o ddrain a'i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o'i flaen a'i watwar: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!”

30 Poerasant arno, a chymryd y wialen a'i guro ar ei ben.

31 Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i'w groeshoelio.

Croeshoelio Iesu

32 Wrth fynd allan daethant ar draws dyn o Cyrene o'r enw Simon, a gorfodi hwnnw i gario ei groes ef.

33 Daethant i le a elwir Golgotha, hynny yw, “Lle Penglog”,

34 ac yno rhoesant iddo i'w yfed win wedi ei gymysgu â bustl, ond ar ôl iddo ei brofi, gwrthododd ei yfed.

35 Croeshoeliasant ef, ac yna rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren,

36 ac eisteddasant yno i'w wylio.

37 Uwch ei ben gosodwyd y cyhuddiad yn ei erbyn mewn ysgrifen: “Hwn yw Iesu, Brenin yr Iddewon.”

38 Yna croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith.

39 Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, yn ysgwyd eu pennau

40 ac yn dweud, “Ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw wyt ti, a disgyn oddi ar y groes.”

41 A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd â'r ysgrifenyddion a'r henuriaid, yn ei watwar ac yn dweud,

42 “Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun. Brenin Israel yn wir! Disgynned yn awr oddi ar y groes ac fe gredwn ynddo.

43 Ymddiriedodd yn Nuw; boed i Dduw ei waredu yn awr, os yw â'i fryd arno, oherwydd dywedodd, ‘Mab Duw ydwyf.’ ”

44 Yr un modd, yr oedd hyd yn oed y lladron a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.

Marwolaeth Iesu

45 O ganol dydd, daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn.

46 A thua thri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eli, Eli, lema sabachthani”, hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?”

47 O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, “Y mae hwn yn galw ar Elias.”

48 Ac ar unwaith fe redodd un ohonynt a chymryd ysbwng a'i lenwi â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed.

49 Ond yr oedd y lleill yn dweud, “Gadewch inni weld a ddaw Elias i'w achub.”

50 Gwaeddodd Iesu drachefn â llef uchel, a bu farw.

51 A dyma len y deml yn cael ei rhwygo yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Siglwyd y ddaear a holltwyd y creigiau;

52 agorwyd y beddau a chyfodwyd cyrff llawer o'r saint oedd wedi huno.

53 Ac ar ôl atgyfodiad Iesu, daethant allan o'u beddau a mynd i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac fe'u gwelwyd gan lawer.

54 Ond pan welodd y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylio Iesu, y daeargryn a'r cwbl oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnynt a dywedasant, “Yn wir, Mab Duw oedd hwn.”

55 Yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, rhai oedd wedi canlyn Iesu o Galilea i weini arno;

56 yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, Mair mam Iago a Joseff, a mam meibion Sebedeus.

Claddu Iesu

57 Pan aeth yn hwyr, daeth dyn cyfoethog o Arimathea o'r enw Joseff, a oedd yntau wedi dod yn ddisgybl i Iesu.

58 Aeth hwn at Pilat a gofyn am gorff Iesu; yna gorchmynnodd Pilat ei roi iddo.

59 Cymerodd Joseff y corff a'i amdói mewn lliain glân,

60 a'i osod yn ei fedd newydd ef ei hun, yr oedd wedi ei naddu yn y graig. Yna treiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd ac aeth ymaith.

61 Ac yr oedd Mair Magdalen a'r Fair arall yno yn eistedd gyferbyn â'r bedd.

Y Gwarchodlu wrth y Bedd

62 Trannoeth, y dydd ar ôl y Paratoad, daeth y prif offeiriaid a'r Phariseaid ynghyd at Pilat

63 a dweud, “Syr, daeth i'n cof fod y twyllwr yna, pan oedd eto'n fyw, wedi dweud, ‘Ar ôl tridiau fe'm cyfodir.’

64 Felly rho orchymyn i'r bedd gael ei warchod yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag i'w ddisgyblion ddod a'i ladrata a dweud wrth y bobl, ‘Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw’, ac felly bod y twyll olaf yn waeth na'r cyntaf.”

65 Dywedodd Pilat wrthynt, “Cymerwch warchodlu; ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch.”

66 Aethant hwythau a diogelu'r bedd trwy selio'r maen, a gosod y gwarchodlu wrth law.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28