Philipiaid 2 BCN

Gostyngeiddrwydd Cristionogol a Gostyngeiddrwydd Crist

1 Felly, os oes gennych yng Nghrist unrhyw symbyliad, unrhyw apêl o du cariad, unrhyw gymdeithas trwy'r Ysbryd, os oes unrhyw gynhesrwydd a thosturi,

2 cyflawnwch fy llawenydd trwy fod o'r un meddwl, a'r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac yn unfarn.

3 Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun.

4 Bydded gofal gan bob un ohonoch, nid am eich buddiannau eich hunain yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd.

5 Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu.

6 Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w gipio,

7 ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol.

8 O'i gael ar ddull dyn, fe'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes.

9 Am hynny tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo'r enw sydd goruwch pob enw,

10 fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear,

11 ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.

Disgleirio fel Goleuadau yn y Byd

12 Gan hynny, fy nghyfeillion annwyl, fel y buoch bob amser yn ufudd, felly yn awr, nid yn unig fel pe bawn yn bresennol, ond yn fwy o lawer gan fy mod yn absennol, gweithredwch, mewn ofn a dychryn, yr iachawdwriaeth sy'n eiddo ichwi;

13 oblegid Duw yw'r un sydd yn gweithio ynoch i beri ichwi ewyllysio a gweithredu i'w amcanion daionus ef.

14 Gwnewch bopeth heb rwgnach nac ymryson;

15 byddwch yn ddi-fai a diddrwg, yn blant di-nam i Dduw yng nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd,

16 yn cyflwyno gair y bywyd. Felly byddwch yn destun ymffrost i mi yn Nydd Crist, na fu imi redeg y ras yn ofer na llafurio yn ofer.

17 Ond os tywelltir fy mywyd i yn ddiodoffrwm ac yn aberth er mwyn eich ffydd chwi, yr wyf yn llawen, ac yn cydlawenhau â chwi i gyd.

18 Yn yr un modd byddwch chwithau'n llawen, a chydlawenhewch â mi.

Timotheus ac Epaffroditus

19 Ond yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus atoch ar fyrder, er mwyn imi gael fy nghalonogi o wybod am eich amgylchiadau chwi.

20 Oherwydd nid oes gennyf neb o gyffelyb ysbryd iddo ef, i gymryd gwir ofal am eich buddiannau chwi;

21 y maent oll â'u bryd ar eu dibenion eu hunain, nid ar ddibenion Iesu Grist.

22 Gwyddoch fel y profwyd ei werth ef, gan iddo wasanaethu gyda mi, fel mab gyda'i dad, o blaid yr Efengyl.

23 Dyma'r gŵr, ynteu, yr wyf yn gobeithio'i anfon, cyn gynted byth ag y caf weld sut y bydd hi arnaf.

24 Ac yr wyf yn sicr, yn yr Arglwydd, y byddaf fi fy hun hefyd yn dod yn fuan.

25 Yr wyf yn credu hefyd y dylwn anfon Epaffroditus atoch, brawd a chydweithiwr a chydfilwr i mi, a'ch cennad chwi i weini ar fy anghenraid i.

26 Oherwydd y mae ef wedi bod yn hiraethu amdanoch oll, ac yn poeni am i chwi glywed iddo fod yn glaf.

27 Yn wir, fe fu'n wael, hyd at farw bron; ond fe dosturiodd Duw wrtho, ac nid wrtho ef yn unig ond wrthyf finnau hefyd, rhag imi gael gofid ar ben gofid.

28 Yr wyf, felly, yn fwy eiddgar i'w anfon, er mwyn i chwi lawenhau eto o'i weld, ac i minnau fod yn llai fy ngofid.

29 Derbyniwch ef felly yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd; ac anrhydeddwch rai o'i fath ef,

30 oherwydd bu yn ymyl marw er mwyn gwaith Crist pan fentrodd ei fywyd i gyflawni drosof y gwasanaeth na allech chwi mo'i gyflawni.

Penodau

1 2 3 4