36 Rhoddaf un llwyth i'w fab, fel y caiff fy ngwas Dafydd lamp ger fy mron am byth yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi fy hun i osod fy enw yno.
37 Dewisaf dithau i deyrnasu ar gymaint ag a ddymuni, a byddi'n frenin ar Israel.
38 Ac os gwrandewi ar bopeth a orchmynnaf, a rhodio yn fy ffyrdd, a gwneud yr hyn sy'n iawn gennyf, sef cadw fy neddfau a'm gorchmynion fel y gwnaeth fy ngwas Dafydd, byddaf gyda thi a chodaf iti dŷ sicr fel y gwneuthum i Ddafydd.
39 Rhoddaf Israel i ti er mwyn cosbi hil Dafydd oherwydd hyn; eto nid am byth chwaith.’ ”
40 A cheisiodd Solomon ladd Jeroboam, ond ffodd Jeroboam draw i'r Aifft at Sisac brenin yr Aifft, ac yno y bu hyd farwolaeth Solomon.
41 Am weddill hanes Solomon, popeth a gyflawnodd, a'i ddoethineb, onid yw ar gael yn llyfr gweithredoedd Solomon?
42 Deugain mlynedd oedd hyd yr amser y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem dros Israel.