15 Ahi fab Abdiel, fab Guni, oedd y penteulu.
16 Yr oeddent hwy yn byw yn Gilead ac ym mhentrefi Basan, a thrwy holl gytir Saron o un terfyn i'r llall.
17 Cafodd y rhain i gyd eu rhestru yn ôl eu hachau yn nyddiau Jotham brenin Jwda a Jeroboam brenin Israel.
18 Ymysg meibion Reuben a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse yr oedd pedair mil a deugain, saith gant a thrigain o wŷr cryfion yn cario tarian a chleddyf ac yn tynnu bwa; yr oeddent wedi dysgu ymladd, ac yn barod i fynd allan i ryfel.
19 Buont yn ymladd yn erbyn yr Hagariaid, Jetur, Neffis, a Nodab.
20 Fe gawsant help yn eu herbyn, a gorchfygu'r Hagariaid a phawb oedd gyda hwy, oherwydd iddynt alw ar Dduw yn y frwydr ac iddo yntau wrando arnynt am eu bod yn ymddiried ynddo.
21 Cymerasant o'u hanifeiliaid yn ysbail: hanner can mil o'u camelod, hanner can mil a dau gant o ddefaid, dwy fil o asynnod, a hefyd can mil o bobl.