10 O'r offeiriaid: Jedaia, Jehoiarib, Jachin,
11 Asareia fab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, arolygwr tŷ Dduw;
12 Adaia fab Jeroham, fab Passur, fab Malcheia; Maasia fab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.
13 Ac yr oedd eu brodyr, eu pennau-teuluoedd, yn fil saith gant chwe deg, dynion abl ar gyfer y gwaith o wasanaethu yn nhŷ Dduw.
14 O'r Lefiaid: Semaia fab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari;
15 Bacbaccar, Heres, Galal, Mataneia fab Micha, fab Sichri, fab Asaff;
16 Obadeia fab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; Berecheia fab Asa, fab Elcana, oedd yn byw yn nhrefi'r Netoffathiaid.