3 Dyma'r rhai o lwyth Jwda, o lwyth Benjamin ac o lwyth Effraim a Manasse, oedd yn byw yn Jerwsalem:
4 O lwyth Jwda: Uthai fab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda;
5 ac o'r Siloniaid: Asaia y cyntafanedig, a'i feibion;
6 ac o feibion Sera: Jeuel. Yr oeddent yn chwe chant a deg a phedwar ugain.
7 O lwyth Benjamin: Salu fab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua;
8 Ibneia fab Meroham, Ela fab Ussi, fab Michri: Mesulam fab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija;
9 yn ôl rhestrau eu teuluoedd yr oeddent yn naw cant a deg a deugain a chwech. Yr oeddent i gyd yn bennau-teuluoedd.