4 a rhoddodd gyfarwyddyd i mi i adeiladu iddo dŷ yn Jerwsalem yn Jwda.
5 Pwy bynnag ohonoch sy'n perthyn i'w genedl ef, bydded ei Arglwydd gydag ef, ac aed i fyny i Jerwsalem yn Jwda i adeiladu tŷ Arglwydd Israel—ef yw'r Arglwydd sy'n preswylio yn Jerwsalem.
6 Y rheini oll sy'n byw mewn gwahanol ardaloedd, bydded i bobl eu hardal hwy eu helpu â rhoddion o aur ac arian,
7 â cheffylau a gwartheg, yn ogystal â phethau eraill a gyflwynwyd trwy adduned i deml yr Arglwydd yn Jerwsalem.”
8 Yna cododd pennau-teuluoedd llwythau Jwda a Benjamin, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a'r holl rai y cynhyrfodd yr Arglwydd eu hysbryd, i fynd i fyny i adeiladu tŷ i'r Arglwydd yn Jerwsalem,
9 a chynorthwyodd eu cymdogion hwy ym mhob peth, ag arian ac aur, ceffylau a gwartheg, a llawer iawn o'r rhoddion a gyflwynwyd trwy adduned gan lawer o bobl a roes eu bryd ar hynny.
10 Dug y Brenin Cyrus allan hefyd lestri sanctaidd yr Arglwydd, a gludodd Nebuchadnesar i ffwrdd o Jerwsalem a'u gosod yn nheml ei eilunod.