42 Ac wedi canfod nad oedd yno neb o linach yr offeiriaid na neb o'r Lefiaid,
43 anfonais at Eleasar, Idwelus, Maasmas,
44 Elnatan, Samaias, Joribus, Nathan, Enmatas, Sacharias a Mesolamus, a oedd yn wŷr blaenllaw a gwybodus,
45 a dywedais wrthynt am fynd at Adaius, y pennaeth yn y trysordy,
46 gan orchymyn iddynt ofyn i Adaius a'i frodyr a'r trysoryddion yno anfon atom rai i weinyddu fel offeiriaid yn nhŷ ein Harglwydd.
47 A thrwy law nerthol ein Harglwydd dygasant inni ddynion gwybodus o deulu Mooli fab Lefi, fab Israel, sef Asebebias a'i feibion a'i frodyr, deunaw ohonynt i gyd;
48 hefyd Asebias ac Annwnus a Mosaias ei frawd, o deulu Chanwnaius, a'u meibion, ugain ohonynt i gyd;