22 a bwrdd y bara cysegredig a'r cwpanau a'r cawgiau a'r thuserau aur a'r llen a'r coronau. Rhwygodd ymaith yr holl addurn aur oedd ar wyneb y deml.
23 Cymerodd hefyd yr arian a'r aur a'r llestri gwerthfawr, a hefyd y trysorau cuddiedig y daeth o hyd iddynt.
24 Gan gymryd y cyfan gydag ef, dychwelodd i'w wlad ei hun. Gwnaeth gyflafan fawr a llefarodd yn dra rhyfygus.
25 Bu galar mawr yn Israel ym mhobman;
26 griddfanodd llywodraethwyr a henuriaid,llesgaodd genethod a llanciau,gwywodd tegwch y gwragedd.
27 Ymunodd pob priodfab yn y galar,ac wylai'r briodferch yn yr ystafell briodas.
28 Crynodd y tir ei hun dros ei drigolion,a gwisgwyd holl dŷ Jacob â chywilydd.