30 Llefarodd ef eiriau heddychlon wrthynt yn ddichellgar, a chredodd y bobl ef. Yna yn ddisymwth ymosododd ar y ddinas a'i tharo ag ergyd galed, a lladdodd lawer o bobl Israel.
31 Ysbeiliodd y ddinas a'i rhoi ar dân, a thynnu i lawr ei thai a'r muriau o'i hamgylch.
32 Cymerasant y gwragedd a'r plant yn gaethion a meddiannu'r gwartheg.
33 Yna gwnaethant Ddinas Dafydd yn gaerog, gyda mur uchel a chryf a thyrau cedyrn, a daeth yn amddiffynfa iddynt.
34 Gosodasant yno bobl bechadurus, dynion digyfraith, a'i gwneud yn gadarnle.
35 Cynullasant stôr o arfau a bwyd, ac wedi casglu ynghyd ysbail Jerwsalem fe'i rhoesant yno, a daethant yn berygl enbyd.
36 Yr oedd y lle yn fan cynllwynio yn erbyn y cysegr ac yn fygythiad dieflig i Israel yn barhaus.