34 Gosodasant yno bobl bechadurus, dynion digyfraith, a'i gwneud yn gadarnle.
35 Cynullasant stôr o arfau a bwyd, ac wedi casglu ynghyd ysbail Jerwsalem fe'i rhoesant yno, a daethant yn berygl enbyd.
36 Yr oedd y lle yn fan cynllwynio yn erbyn y cysegr ac yn fygythiad dieflig i Israel yn barhaus.
37 Tywalltasant waed y dieuog o amgylch y cysegr,a halogi'r cysegr ei hun.
38 O'u plegid hwy, ffodd trigolion Jerwsalem,a daeth y ddinas yn breswylfa i estroniaid;daeth yn ddieithr i'w hiliogaeth ei hun,a gadawyd hi gan ei phlant.
39 Gwnaethpwyd ei chysegr yn anghyfannedd fel anialwch;trowyd ei gwyliau yn alara'i Sabothau yn waradwydd,a'i hanrhydedd yn ddirmyg.
40 Mawr y gogoniant a fu iddi gynt,a mawr yr amarch a ddaeth iddi yn awr;a throwyd ei gwychder yn dristwch.