51 Gyda'r gorchmynion hyn i gyd ysgrifennodd y brenin at ei holl deyrnas, a phenododd arolygwyr dros y bobl i gyd, gan orchymyn i drefi Jwda offrymu aberthau fesul un.
52 Ymunodd llawer o'r bobl â hwy, sef pawb oedd am ymwrthod â'r gyfraith, a chyflawni drygioni yn y wlad,
53 a gyrru Israel i guddio mewn lleoedd dirgel, ym mhob lloches oedd ganddynt.
54 Ar y pymthegfed dydd o fis Cislef, yn y flwyddyn 145, bu iddynt adeiladu ffieiddbeth diffeithiol ar yr allor, a chodi allorau i eilunod yn y trefi o amgylch Jwda,
55 ac arogldarthu wrth ddrysau'r tai ac yn yr heolydd.
56 Torrwyd yn ddarnau lyfrau'r gyfraith a ddarganfuwyd, a'u llosgi â thân.
57 A phan gaed llyfr y cyfamod ym meddiant rhywun, neu os byddai rhywun yn cydymffurfio â'r gyfraith, fe'i lleddid yn unol â gorchymyn y brenin.