6 Felly galwodd ei gadfridogion, y rheini oedd wedi eu magu gydag ef o'i ieuenctid, a rhannodd ei deyrnas rhyngddynt tra oedd eto'n fyw.
7 Bu Alexander yn teyrnasu am ddeuddeng mlynedd cyn iddo farw.
8 Yna dechreuodd ei gadfridogion lywodraethu, pob un yn ei dalaith ei hun.
9 Ar ôl ei farwolaeth ef, mynnodd pob un goron brenin, ac felly hefyd eu meibion ar eu hôl hwy am flynyddoedd lawer, a daethant â mwy a mwy o drallodion i'r byd.
10 O'u plith hwy y daeth y gwreiddyn pechadurus Antiochus Epiffanes, mab i'r Brenin Antiochus, a fuasai'n wystl yn Rhufain. Daeth ef i'r orsedd yn y flwyddyn 137 o deyrnasiad y Groegiaid.
11 Yn y dyddiau hynny cododd yn Israel rai oedd wedi gwrthgilio oddi wrth y gyfraith, a chawsant berswâd ar lawer trwy ddweud, “Gadewch i ni fynd a gwneud cyfamod â'r Cenhedloedd sydd o'n hamgylch, oherwydd o'r amser y bu i ni ymwahanu oddi wrthynt, daeth llawer o drallodion ar ein gwarthaf.”
12 Yr oedd y cyngor hwn yn dderbyniol yng ngolwg y bobl, ac aeth rhai ohonynt yn eiddgar at y brenin.