3 Helaethodd ogoniant ei bobl.Gwisgodd ddwyfronneg fel cawr,ac ymwregysu â'i arfau rhyfel.Cynlluniodd frwydrau,gan amddiffyn ei fyddin â'i gleddyf.
4 Yr oedd fel llew yn ei gampau,fel cenau llew yn rhuo am ysglyfaeth.
5 Chwiliodd am y rhai digyfraith a'u herlid,a difa'r rhai a darfai ar ei bobl.
6 Ciliodd y digyfraith rhagddo mewn braw,a thrallodwyd holl weithredwyr drygioni.Ffynnodd achos gwaredigaeth dan ei law ef.
7 Parodd ddicter i frenhinoedd lawerond rhoes lawenydd i Jacob drwy ei weithredoedd.Bendigedig fydd ei goffadwriaeth am byth.
8 Tramwyodd drwy drefi Jwdagan lwyr ddinistrio'r annuwiol o'r tir.Trodd ymaith y digofaint oddi wrth Israel.
9 Daeth yn enwog hyd at derfynau'r ddaear,a chasglodd ynghyd y rhai oedd ar ddarfod amdanynt.