35 Yr oedd i anfon byddin yn erbyn y rhain, i ddryllio a dinistrio cryfder Israel a gweddill Jerwsalem, a dileu'r cof amdanynt o'r lle.
36 Yr oedd hefyd i osod estroniaid yn eu holl diriogaeth, a rhannu eu gwlad i'r rheini drwy goelbrennau.
37 Yna cymerodd y brenin yr hanner o'i fyddin a oedd yn weddill, ac ymadawodd o Antiochia, ei brif ddinas, yn y flwyddyn 147. Croesodd Afon Ewffrates ac aeth trwy daleithiau'r dwyrain.
38 Dewisodd Lysias ddynion cryf o blith Cyfeillion y Brenin, sef Ptolemeus fab Dorymenes, a Nicanor a Gorgias,
39 ac anfonodd gyda hwy ddeugain mil o wŷr traed a saith mil o wŷr meirch i fynd i wlad Jwda i'w dinistrio hi yn ôl gorchymyn y brenin.
40 Ymadawsant felly gyda'u holl lu, a daethant a gwersyllu ger Emaus, ar y gwastatir.
41 A phan glywodd masnachwyr y dalaith y sôn amdanynt, cymerasant swm enfawr o arian ac aur, ynghyd â llyffetheiriau, a daethant i'r gwersyll i brynu plant Israel yn gaethweision. Ymunodd byddin o Syria ac o wlad y Philistiaid â hwy.