51 Y mae dy gysegr di wedi ei sathru a'i halogi, a'th offeiriaid mewn galar a darostyngiad.
52 A dyma'r Cenhedloedd wedi dod ynghyd yn ein herbyn i'n dinistrio, ac fe wyddost ti beth yw eu cynlluniau yn ein herbyn.
53 Sut y gallwn ni eu gwrthsefyll os na fydd i ti ein cynorthwyo?”
54 Yna canasant yr utgyrn, a gweiddi â llef uchel.
55 Wedi hyn, penododd Jwdas lywodraethwyr ar y bobl, swyddogion dros fil, dros gant, dros hanner cant a thros ddeg.
56 A dywedodd wrth y rhai oedd yn adeiladu tai, a'r rhai oedd wedi eu dyweddïo, a'r rhai oedd yn plannu gwinllannoedd, a'r rhai ofnus, am ddychwelyd bob un i'w gartref, yn unol â'r gyfraith.
57 Ac ymadawodd y fyddin, a gwersyllu i'r de o Emaus.