1 Yna cymerodd Gorgias bum mil o wŷr traed a mil o wŷr meirch dethol, ac ymadawodd y fyddin liw nos
2 fel y gallai ymosod ar fyddin yr Iddewon a'u taro'n ddisymwth. Yr oedd ganddo ddynion o'r gaer i ddangos y ffordd iddo.
3 Ond clywodd Jwdas am hyn ac ymadawodd ef a'i wŷr arfog i daro llu'r brenin yn Emaus
4 tra oedd ei finteioedd eto ar wasgar allan o'u gwersyll.
5 Pan aeth Gorgias i mewn i wersyll Jwdas liw nos ni chafodd neb yno; aeth i chwilio amdanynt yn y mynyddoedd, gan ddweud wrtho'i hun, “Y mae'r gwŷr hyn ar ffo oddi wrthym.”