12 Pan edrychodd yr estroniaid, a'u gweld yn dod yn eu herbyn,
13 aethant allan o'r gwersyll i'r frwydr. Canodd gwŷr Jwdas eu hutgyrn
14 a mynd i'r afael â hwy. Drylliwyd y Cenhedloedd a ffoesant i'r gwastadedd,
15 a syrthiodd y rhengoedd ôl i gyd wedi eu trywanu â'r cleddyf. Ymlidiasant hwy hyd at Gasara, a hyd at wastadeddau Idwmea, Asotus a Jamnia, a syrthiodd tua thair mil o'u gwŷr.
16 Dychwelodd Jwdas a'i lu o'u hymlid,
17 a dywedodd wrth y bobl, “Peidiwch â chwennych ysbail, oherwydd y mae rhagor o ryfela o'n blaen.
18 Y mae Gorgias a'i lu yn y mynydd gerllaw. Yn hytrach, dyma'r amser i wynebu ein gelynion ac ymladd; wedi hynny cewch gymryd yr ysbail yn hyderus.”