17 a dywedodd wrth y bobl, “Peidiwch â chwennych ysbail, oherwydd y mae rhagor o ryfela o'n blaen.
18 Y mae Gorgias a'i lu yn y mynydd gerllaw. Yn hytrach, dyma'r amser i wynebu ein gelynion ac ymladd; wedi hynny cewch gymryd yr ysbail yn hyderus.”
19 A Jwdas ar fin gorffen y geiriau hyn, gwelwyd mintai yn edrych allan o gyfeiriad y mynydd.
20 Gwelsant fod eu byddin ar ffo, a bod eu gwersyll ar dân, oherwydd yr oedd y mwg a welid yn dangos beth oedd wedi digwydd.
21 O ganfod hyn dychrynasant yn ddirfawr, a phan welsant hefyd fyddin Jwdas yn y gwastadedd yn barod i'r frwydr,
22 ffoesant oll i dir y Philistiaid.
23 Yna dychwelodd Jwdas i ysbeilio'r gwersyll, a chymerasant lawer o aur ac arian a sidan glas a phorffor o liw'r môr, a golud mawr.