28 Ond yn y flwyddyn ganlynol casglodd ynghyd drigain mil o wŷr traed dethol a phum mil o wŷr meirch, i barhau'r rhyfel yn erbyn yr Iddewon.
29 Daethant hyd at Idwmea a gwersyllu yn Bethswra, ac aeth Jwdas i'w cyfarfod â deng mil o wŷr.
30 Pan welodd y fyddin gref gweddïodd fel hyn: “Bendigedig wyt ti, O Waredwr Israel, yr hwn a ddrylliodd gyrch y cawr nerthol trwy law Dafydd dy was, ac a draddododd fyddin y Philistiaid i ddwylo Jonathan fab Saul a'i gludydd arfau.
31 Yn yr un modd cau'r fyddin hon yn llaw dy bobl Israel, a bydded arnynt gywilydd o'u llu arfog ac o'u gwŷr meirch.
32 Gwna hwy'n llwfr a difa eu haerllugrwydd trahaus; pâr iddynt grynu yn eu dinistr.
33 Bwrw hwy i lawr â chleddyf y rhai sy'n dy garu, a boed i bawb sy'n adnabod dy enw dy glodfori ag emynau.”
34 Aethant i'r afael â'i gilydd, a syrthiodd tua phum mil o wŷr byddin Lysias yn y brwydro clòs.