3 Ond clywodd Jwdas am hyn ac ymadawodd ef a'i wŷr arfog i daro llu'r brenin yn Emaus
4 tra oedd ei finteioedd eto ar wasgar allan o'u gwersyll.
5 Pan aeth Gorgias i mewn i wersyll Jwdas liw nos ni chafodd neb yno; aeth i chwilio amdanynt yn y mynyddoedd, gan ddweud wrtho'i hun, “Y mae'r gwŷr hyn ar ffo oddi wrthym.”
6 Gyda'r wawr gwelwyd Jwdas yn y gwastadedd gyda thair mil o wŷr; ond nid oedd ganddynt gymaint o arfwisgoedd a chleddyfau ag y dymunent.
7 Gwelsant wersyll y Cenhedloedd, yn gadarn yn ei gloddiau amddiffynnol, gyda gwŷr meirch yn gylch amdano, a'r rheini'n rhyfelwyr hyddysg.
8 Dywedodd Jwdas wrth y gwŷr oedd gydag ef, “Peidiwch ag ofni eu rhifedi nac arswydo rhag eu cyrch.
9 Cofiwch pa fodd yr achubwyd ein hynafiaid wrth y Môr Coch, pan oedd Pharo a'i lu yn eu hymlid.