43 i lanhau'r cysegr a symud y cerrig a'i halogai i le aflan.
44 Wedi ymgynghori beth i'w wneud ag allor y poethoffrwm a oedd wedi ei difwyno,
45 penderfynasant yn gwbl gywir ei thynnu i lawr rhag iddi ddwyn gwaradwydd arnynt, oherwydd yr oedd y Cenhedloedd wedi ei halogi. Felly tynasant yr allor i lawr,
46 a chasglu'r cerrig i'w cadw mewn man cyfleus yng nghyffiniau bryn y deml, hyd oni chyfodai proffwyd i ddyfarnu arnynt.
47 Yna cymerasant gerrig heb eu naddu, yn unol â gofynion y gyfraith, ac adeiladu allor newydd ar batrwm y gyntaf.
48 Adeiladasant y cysegr hefyd, o'r tu mewn a'r tu allan, a chysegru'r cynteddau.
49 Gwnaethant lestri sanctaidd newydd, a dwyn y ganhwyllbren ac allor yr arogldarth a'r bwrdd i mewn i'r deml.