52 Ar y pumed dydd ar hugain o'r nawfed mis, sef y mis Cislef, yn y flwyddyn 148 codasant yn y bore bach
53 ac offrymu aberth yn unol â gofynion y gyfraith ar yr allor newydd yr oeddent wedi ei hadeiladu i'r poethoffrymau.
54 Ar yr union adeg a'r union ddydd yr oedd y Cenhedloedd wedi ei halogi hi, fe ailgysegrwyd yr allor â chaniadau, â thelynau a phibau a symbalau.
55 Syrthiodd yr holl bobl ar eu hwynebau gan addoli a bendithio'r nef, a barodd lwyddiant iddynt.
56 Buont yn dathlu ailgysegru'r allor am wyth diwrnod, ac yn offrymu poethoffrymau mewn llawenydd, ac yn aberthu aberth gwaredigaeth a mawl.
57 Addurnasant dalcen y deml â thorchau euraid ac â tharianau, ac adnewyddu'r pyrth ac ystafelloedd yr offeiriaid a rhoi drysau arnynt.
58 Bu llawenydd mawr iawn ymhlith y bobl, a dilëwyd y gwaradwydd a ddygasai'r Cenhedloedd arnynt.