21 Yr oedd yr awgrym yn dderbyniol ganddynt,
22 a dyma gopi o'r llythyr a ysgrifenasant yn ateb, ar lechi pres, a'i anfon i Jerwsalem i fod gyda'r Iddewon yno yn goffâd o heddwch a chynghrair:
23 “Pob llwyddiant i'r Rhufeiniaid ac i genedl yr Iddewon ar fôr a thir yn dragywydd, a phell y bo cleddyf a gelyn oddi wrthynt.
24 Os daw rhyfel yn gyntaf i Rufain neu i un o'u cynghreiriaid o fewn eu holl ymerodraeth,
25 bydd cenedl yr Iddewon yn eu cefnogi fel cynghreiriaid o lwyrfryd calon, fel y bydd yr achlysur yn gofyn ganddynt.
26 Nid ydynt i roi na darparu ymborth, arfau, arian, na llongau i neb fydd yn mynd i ryfel yn eu herbyn; felly yr ordeiniodd Rhufain. Y maent i gadw rhwymedigaethau heb dderbyn unrhyw iawndal.
27 Yn yr un modd os digwydd rhyfel yn gyntaf yn erbyn cenedl yr Iddewon, y mae'r Rhufeiniaid i'w cefnogi fel cynghreiriaid yn ewyllysgar, fel y bydd yr achlysur yn gofyn ganddynt.