16 Paid â'm hystyried yn ddynes ofer, oherwydd o ganol fy nghŵyn a'm cystudd yr oeddwn yn siarad gynnau.”
17 Atebodd Eli, “Dos mewn heddwch, a rhodded Duw Israel iti yr hyn a geisiaist ganddo.”
18 Dywedodd hithau, “Bydded imi gael ffafr yn dy olwg.” Yna aeth i ffwrdd a bwyta, ac nid oedd mwyach yn drist.
19 Bore trannoeth, wedi iddynt godi ac addoli'r ARGLWYDD, aethant yn ôl adref i Rama.
20 Cafodd Elcana gyfathrach â'i wraig Hanna a chofiodd yr ARGLWYDD hi. Beichiogodd Hanna, ac ymhen amser geni mab a'i alw'n Samuel, oherwydd: “Gan yr ARGLWYDD y gofynnais amdano.”
21 Aeth y gŵr Elcana a'i holl deulu i offrymu ei aberth blynyddol i'r ARGLWYDD, ac i dalu adduned.
22 Nid aeth Hanna, ond dywedodd wrth ei gŵr, “Cyn gynted ag y bydd y bachgen wedi ei ddiddyfnu, af ag ef i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD, a chaiff aros yno am byth.”