8 er bod ei gŵr Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam yr wyt ti'n wylo a gwrthod bwyta? Pam yr wyt yn torri dy galon? Onid wyf fi'n well i ti na deg o feibion?”
9 Ar ôl iddynt fwyta ac yfed yn Seilo, cododd Hanna; ac yr oedd yr offeiriad Eli yn eistedd ar gadair wrth ddrws teml yr ARGLWYDD.
10 Yr oedd hi'n gythryblus ei hysbryd, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD ac wylo'n hidl.
11 Tyngodd adduned a dweud, “O ARGLWYDD y Lluoedd, os cymeri sylw o gystudd dy lawforwyn a pheidio â'm hanwybyddu, ond cofio amdanaf a rhoi imi epil, yna rhoddaf ef i'r ARGLWYDD am ei oes, ac nid eillir ei ben byth.”
12 Tra oedd hi'n parhau i weddïo gerbron yr ARGLWYDD, yr oedd Eli'n dal sylw ar ei genau.
13 Gan mai siarad rhyngddi a hi ei hun yr oedd Hanna, dim ond ei gwefusau oedd yn symud, ac nid oedd ei llais i'w glywed.
14 Tybiodd Eli ei bod yn feddw, a dywedodd wrthi, “Am ba hyd y byddi'n feddw? Ymysgwyd o'th win.”