27 Nid oedd Jonathan wedi clywed ei dad yn gwneud i'r bobl gymryd y llw, ac estynnodd y ffon oedd yn ei law a tharo'i blaen yn y diliau mêl, ac yna'i chodi at ei geg; a gloywodd ei lygaid.
28 Yna dywedodd un o'r bobl wrtho, “Y mae dy dad wedi gosod llw caeth ar y bobl, ac wedi dweud, ‘Melltigedig yw pob un sy'n bwyta tamaid heddiw’. Ac yr oedd y bobl yn lluddedig.”
29 Atebodd Jonathan, “Y mae fy nhad wedi gwneud drwg i'r wlad; edrychwch fel y gloywodd fy llygaid pan brofais fymryn o'r mêl hwn.
30 Yn wir, pe bai'r bobl wedi cael rhyddid i fwyta heddiw o ysbail eu gelynion, oni fyddai'r lladdfa ymysg y Philistiaid yn drymach?”
31 Y diwrnod hwnnw trawyd y Philistiaid bob cam o Michmas i Ajalon, er bod y bobl wedi blino'n llwyr.
32 Yna rhuthrodd y bobl ar yr ysbail a chymryd defaid ac ychen a lloi, a'u lladd ar y ddaear, a'u bwyta heb eu gwaedu.
33 Pan ddywedwyd wrth Saul, “Edrych, y mae'r bobl yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD wrth fwyta cig heb ei waedu”, dywedodd yntau, “Yr ydych wedi troseddu; rhowliwch yma garreg fawr ar unwaith.”