33 Pan ddywedwyd wrth Saul, “Edrych, y mae'r bobl yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD wrth fwyta cig heb ei waedu”, dywedodd yntau, “Yr ydych wedi troseddu; rhowliwch yma garreg fawr ar unwaith.”
34 Yna dywedodd Saul, “Ewch ar frys trwy ganol y bobl a dywedwch wrthynt, ‘Doed pob un â'i ych neu ei ddafad ataf fi, a'u lladd yma a'u bwyta, rhag i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD trwy fwyta cig heb ei waedu’.” Daeth pob un o'r bobl â'i ych gydag ef y noson honno, i'w ladd yno.
35 Felly y cododd Saul allor i'r ARGLWYDD, a honno oedd yr allor gyntaf iddo'i chodi i'r ARGLWYDD.
36 Yna dywedodd Saul, “Awn i lawr ar ôl y Philistiaid liw nos a'u hysbeilio hyd y bore, heb adael yr un ohonynt ar ôl.” Dywedodd y bobl, “Gwna beth bynnag a fynni.” Ond dywedodd yr offeiriad, “Gadewch inni agosáu yma at Dduw.”
37 Gofynnodd Saul i Dduw, “Os af i lawr ar ôl y Philistiaid, a roi di hwy yn llaw Israel?” Ond ni chafodd ateb y diwrnod hwnnw.
38 Yna dywedodd Saul, “Dewch yma, holl bennau-teuluoedd y bobl, a chwiliwch i gael gweld ymhle mae'r pechod hwn heddiw.
39 Oherwydd, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un a waredodd Israel, hyd yn oed pe byddai yn fy mab Jonathan, byddai raid iddo farw.” Ond ni ddywedodd yr un o'r bobl wrtho.