15 Pan welodd Saul mor llwyddiannus oedd Dafydd, yr oedd arno fwy o'i ofn.
16 Yr oedd Israel a Jwda i gyd yn ymserchu yn Nafydd am mai ef oedd yn arwain y fyddin.
17 Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Dyma fy merch hynaf, Merab. Fe'i rhoddaf yn wraig i ti, ond i ti ddangos gwrhydri i mi ac ymladd brwydrau'r ARGLWYDD.” Meddwl yr oedd Saul, “Peidied fy llaw i â'i gyffwrdd, ond yn hytrach law y Philistiaid.”
18 Atebodd Dafydd, “Pwy wyf fi, a beth yw tras llwyth fy nhad yn Israel, i mi fod yn fab-yng-nghyfraith i'w brenin?”
19 Ond pan ddaeth yr amser i roi Merab ferch Saul i Ddafydd, rhoddwyd hi'n wraig i Adriel o Mehola.
20 Syrthiodd Michal ferch Saul mewn cariad â Dafydd, a phan ddywedwyd wrth Saul, yr oedd hynny'n dderbyniol ganddo.
21 Meddyliodd Saul, “Fe'i rhoddaf hi iddo; bydd hi'n fagl iddo, er mwyn i law y Philistiaid ei daro.” A dywedodd Saul wrth Ddafydd am yr eildro, “Yn awr cei fod yn fab-yng-nghyfraith imi.”