27 Cyn bod yr amser wedi dod i ben, cychwynnodd Dafydd allan gyda'i wŷr, ac aethant a lladd dau gant o ddynion y Philistiaid. Dygodd Dafydd eu blaengrwyn a'u cyflwyno i gyd i'r brenin, er mwyn cael priodi merch y brenin; a rhoddodd Saul ei ferch Michal yn wraig iddo.
28 Wedi i Saul weld a sylweddoli bod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod ei ferch Michal yn ei garu,
29 daeth arno fwy o ofn Dafydd nag o'r blaen, ac aeth yn elyn am oes iddo.
30 Bob tro y dôi arweinwyr y Philistiaid allan i ymladd, byddai Dafydd yn fwy llwyddiannus na phawb arall o weision Saul, ac enillodd enwogrwydd mawr.