14 Symudodd yr allor bres a arferai fod gerbron yr ARGLWYDD ym mlaen y tŷ, a'i gosod rhwng yr allor newydd a thŷ'r ARGLWYDD, ar ochr ogleddol yr allor honno.
15 A gorchmynnodd y Brenin Ahas i'r offeiriad Ureia, “Ar yr allor fawr yr wyt i losgi'r poethoffrwm boreol a'r bwydoffrwm hwyrol, a hefyd poethoffrwm a bwydoffrwm y brenin, a phoethoffrwm holl bobl y wlad ynghyd â'u bwydoffrwm a'u diodoffrymau. Ac yn ei herbyn hi y lluchi holl waed y poethoffrymau a'r aberthau. Ond ar fy nghyfer i y bydd yr allor bres i ymofyn wrthi.”
16 Gwnaeth yr offeiriad Ureia yn union fel y gorchmynnodd y Brenin Ahas.
17 Tynnodd y Brenin Ahas fframiau'r trolïau a gwneud i ffwrdd â'u carfanau a'r noe; hefyd dymchwelodd y môr oddi ar gefn yr ychen pres a fu dano, a'i osod ar sylfaen o gerrig.
18 Hefyd, o achos brenin Asyria, cymerodd o dŷ yr ARGLWYDD lidiart y Saboth a adeiladwyd yn y deml wrth fynedfa allanol y brenin.
19 Am weddill hanes Ahas, a'r hyn a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
20 Bu farw Ahas, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd, a theyrnasodd ei fab Heseceia yn ei le.