2 Ymhen rhai blynyddoedd fe aeth i lawr i Samaria at Ahab, a lladdodd yntau lawer o ddefaid a gwartheg iddo ef a'r bobl oedd gydag ef, a'i ddenu i ymosod ar Ramoth-gilead.
3 Meddai Ahab brenin Israel wrth Jehosaffat brenin Jwda, “A ddoi di gyda mi i Ramoth-gilead?” Atebodd yntau, “Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di; down gyda thi i ryfel.”
4 Ond ychwanegodd Jehosaffat wrth frenin Israel, “Cais yn gyntaf air yr ARGLWYDD.”
5 Yna casglodd brenin Israel y proffwydi, pedwar cant ohonynt, a dweud wrthynt, “A ddylem fynd i fyny i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio?” Dywedasant hwythau, “Dos i fyny, ac fe rydd Duw hi yn llaw'r brenin.”
6 Ond holodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd arall i'r ARGLWYDD, i ni ymgynghori ag ef?”
7 Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, “Oes, y mae un gŵr eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla. Ond y mae ef yn atgas gennyf am nad yw byth yn proffwydo lles i mi, dim ond drwg.” Dywedodd Jehosaffat, “Peidied y brenin â dweud fel yna.”
8 Felly galwodd brenin Israel ar swyddog a dweud, “Tyrd â Michea fab Imla yma ar frys.”