1 Dewisodd pobl y wlad Jehoahas fab Joseia, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad yn Jerwsalem.
2 Tair ar hugain oed oedd Jehoahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem.
3 Ond diorseddodd Necho brenin yr Aifft ef yn Jerwsalem, a gosododd ar y wlad dreth o gan talent o arian a thalent o aur.
4 Hefyd gwnaeth Eliacim ei frawd yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a newid ei enw i Jehoiacim, a chymerodd Jehoahas brawd y brenin i lawr i'r Aifft.
5 Pump ar hugain oed oedd Jehoiacim pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am un mlynedd ar ddeg. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw.
6 Daeth Nebuchadnesar brenin Babilon yn ei erbyn, a'i garcharu mewn gefynnau pres a mynd ag ef i Fabilon.