19 Gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i dŷ Dduw: yr allor aur a'r byrddau i ddal y bara gosod;
20 y canwyllbrennau a'u lampau o aur pur, i oleuo o flaen y gafell yn ôl y ddefod;
21 y blodau, y llusernau, a'r gefeiliau aur, a hwnnw'n aur perffaith;
22 y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau o aur pur; o aur hefyd yr oedd drws y tŷ a'i ddorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf, a'r dorau o fewn y côr.