38 a dysg hwy i'r doethion hynny o blith dy bobl y gwyddost fod eu calonnau yn gallu derbyn y cyfrinachau hyn a'u cadw'n ddiogel.
39 Ond aros di yma am saith diwrnod eto, i gael pa ddatguddiad bynnag y bydd y Goruchaf yn gweld yn dda ei roi iti.” Yna gadawodd yr angel fi.
40 Pan glywodd yr holl bobl fod saith diwrnod wedi mynd heibio, a minnau heb ddychwelyd i'r ddinas, daethant hwy oll ynghyd, o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf, a dweud wrthyf:
41 “Pa ddrwg a wnaethom yn dy erbyn, a pha gam a wnaethom â thi, dy fod wedi'n llwyr adael ac ymsefydlu yn y lle hwn?
42 Oherwydd o'r holl broffwydi, ti yw'r unig un a adawyd i ni; yr wyt fel y sypyn olaf o rawnwin y cynhaeaf gwin, fel llusern mewn lle tywyll, ac fel hafan i long a arbedwyd rhag y storm.
43 Onid digon i ni y trallodion sydd wedi dod arnom?
44 Os bydd i ti ein gadael, byddai'n well o lawer pe baem ninnau hefyd wedi ein llosgi yn y tân a losgodd Seion;