20 Gwna gyfiawnder â'r weddw, barna dros y di-dad, rho i'r anghenus, gofala am yr amddifad, dillada'r noeth.
21 Cymer ofal o'r clwyfedig a'r gwan, paid â gwawdio'r cloff, gwarchod yr anafus, a dwg y dall i olwg fy nisgleirdeb i.
22 Cadw'r hen a'r ifanc yn ddiogel o fewn dy furiau.
23 Lle bynnag y doi o hyd i rai meirw, cladda hwy mewn bedd, gan osod nod arnynt; yna, pan atgyfodaf y meirw, rhoddaf i ti y lle blaenaf.
24 Ymlacia a bydd lonydd, fy mhobl; oherwydd fe ddaw dy orffwystra.
25 Di, famaeth dda, meithrin dy blant a rho nerth i'w traed hwy.
26 Ni chollir un o'r gweision a roddais i ti, oblegid fe'u ceisiaf o blith dy rifedi.