23 Oherwydd nid oedd yn fy mryd i holi am y ffyrdd sydd uchod, ond am y pethau hynny sydd yn digwydd bob dydd o flaen ein llygaid. Pam y rhoddwyd Israel yn destun gwawd i'r cenhedloedd? Pam yr ildiwyd y bobl a geraist ti i lwythau annuwiol? Pam y mae cyfraith ein tadau wedi ei gwneud yn ddiddim, a'r cyfamodau ysgrifenedig wedi eu colli?
24 Yr ydym yn diflannu o'r byd fel locustiaid, y mae ein heinioes fel tarth, ac nid ydym yn deilwng i dderbyn trugaredd.
25 Ond beth a wna ef er mwyn ei enw ei hun, yr enw y'n gelwir ni wrtho? Dyna fy nghwestiynau i.”
26 Atebodd ef fel hyn: “Os bydd iti oroesi, fe gei weld, ac os byddi byw, fe ryfeddi'n fynych, oherwydd y mae'r byd hwn yn prysur ddarfod.
27 Am ei fod yn llawn tristwch a llesgedd, ni all y byd hwn ddal y pethau a addawyd i'r rhai cyfiawn yn eu hiawn bryd.
28 Oherwydd y mae'r drwg yr wyt yn fy holi i amdano wedi ei hau, ond ni ddaeth amser ei fedi ef eto.
29 Hyd oni fedir yr hyn a heuwyd, a hyd oni ddiflanna'r lle yr heuwyd y drwg ynddo, nid ymddengys y maes lle'r heuwyd y da.